Un enfys fach arall / One small rainbow

 Cân o obaith am 2020 ac am y dyfodol. 

A Song Of Hope For 2020 And For the Future


Un Enfys Fach Arall

Does gen ti 'run syniad
Sut rwyf yn teimlo
Tu ôl i fy ngwên
Mae deigryn yn cuddio
Yng nghrwbil fy nghalon
Stormydd di-ddarfod
Ar pryder diddiwedd
Sydd weithiau yn ormod.

Cytgan:
Pryder sy'n ddolur
Fel y fagddu ei liw
Amhosib ei fesur
Mae yn brifo ir byw.
Mae'n blino fy enaid
Ac yn siglo fy ffydd.
Cwmwl ystormus
Tros heulwen y dydd.

Rhaid gwynebu yfory
A cryfhau ein ffydd
I goncro gelyn
Sydd ddi-dostur pob dydd
Drwy gryfder ein gweddi
Gofynnwn i Dduw
Am enfys fach arall
I ddynoliaeth gael byw.

© Dafydd Thomas
Mai 2020


One Small Rainbow

You have no idea
How I am feeling
Behind my weak smile
Some teardrops are hiding
In the depths of my heart
Storm clouds are gathering
And the worries I feel
Are now never ending.

Chorus:
Worries are hurting
Right down to the bone
They won't go away
And won't leave me alone.
They all weaken my soul
Are they here to stay?
Like storm clouds that hide
The bright sun of the day.

We must face tomorrow
With hope as we pray
To conquer the foe
That destroys every day.
Through the strength of our prayers
We will ask God to give
One other small rainbow
So that mankind can live

© Dafydd Thomas
May 2020

Comments